Gwirfoddoli
Cyfle i gefnogi gweithwyr sydd yn gweithio gyda dynion, merched a phlant sydd wedi
cael eu cam-drin yn eu Cartref drwy gynnig eu hamser neu wybodaeth a phrofiad.
Dim angen unrhyw brofiad blaenorol - hyfforddiant llawn

Ni allai'r mudiad gynnal ein gwasanaethau heb gymorth gwirfoddolwyr - byddai'ch cyfraniad yn werthfawr i alluogi'r mudiad i ddarparu gwasanaeth i'r rhai sydd ei angen. Gallwch ddewis rôl sy'n iawn i chi
Mae'r mudiad yn cael ei gefnogi gan Wirfoddolwyr sy'n
- Cefnogi staff i weithio gyda theuluoedd
- Helpu gyda'r rota ar-alwad
- Gweithio ar brosiectau
- Hyrwyddo'r mudiad
- Rhannu deunyddiau cyhoeddusrwydd
- Darparu trafnidiaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth
- Gweithio yn y lloches
- Gwneud gwaith gweinyddol yn y swyddfa
- Aelodau o'r Bwrdd Rheoli neu'n rhan o is-grwpiau Cyllid neu Iechyd a Diogelwch
Sut ydwi'n elwa?
- Anwythiad a hyfforddiant
- Profiad yn y maes
- Cwrdd â phobl newydd
- Awyrgylch gwaith cyfeillgar a chefnogol
- Goruchwyliaeth a chefnogaeth cyson
- Cewch eich gwerthfawrogi fel aelod o'r tîm
- Byddwn yn talu eich costau
Dywed ein gwirfoddolwyr
"Y peth gorau am wirfoddoli yma yw bod yn rhan o grwp sy'n llawn brwdfrydedd ac egni i wneud gwahaniaeth."
"Rwyf wedi dysgu cymaint yn y flwyddyn ers i mi ddechrau gwirfoddoli, profiadau fydd yn aros gyda mi am flynyddoedd i ddod."
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a ni