Gwybodaeth
![]()
A ydych yn teimlo eich bod?
- Yn cael eich bygwth, bychanu neu sarhau?
- Yn cael eich gorfodi i gael rhyw, neu wedi'ch ynysu'n rhywiol?
- Yn cael eich anafu'n gorfforol neu wedi eich bygwth â niwed corfforol?
- Yn unig, ar eich ben eich hun, heb fawr o gefnogaeth gan bobl eraill?
- Wedi eich diraddio, yn teimlo'n ddi werth neu heb bwer?
Camdriniaeth yn y cartref
- Gall fod yn gamdriniaeth giriol, megis galw enwau arnoch neu eich beirniadu.
- Efallai y cewch eich rhwystro rhag gweld eich teulu neu'ch ffrindiau, neu o gael bywyd eich hun y u allan i'r cartref drwy weithio, cymdeithasu neu ddilyn cyrsiau.
- Gall cael eich bychanu'n gyhoeddus, neu'ch gorfodi i wneud tasgau mewn trefn arbennig gael ei hystyried fel camdriniaeth hefyd.
- Mae yna sawl gwahanol math o gamdriniaeth, nid niwed corfforol yn unig sy'n cyfrif.
Sut y medrwn helpu?
- Efallai y bydd angen lloches arnoch, neu efallai y bydd angen gwybodaeth neu gefnogaeth yn unig arnoch, a hynny gan ein tim gefnogaeth symudol neu allanol.
- Rhoddir Cymorth cyfrinachol a chydymdeimlad wrth drafod eich problemau a chefnogaeth ychwanegol gydag unrhyw broblemau mae eich plant yn eu hwynebu
- Cymoerth ymarferol gyda symud tŷ, neu newid ysgol, casglu eiddo ac yn y blaen.